Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Llun, 4 Tachwedd 2019

Amser: 14.43 - 15.15
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5615


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Mick Antoniw AC (Cadeirydd)

Suzy Davies AC

Carwyn Jones AC

Tystion:

Staff y Pwyllgor:

P Gareth Williams (Clerc)

Rachael Davies (Dirprwy Glerc)

Rhiannon Lewis (Cynghorydd Cyfreithiol)

Gareth Pembridge (Cynghorydd Cyfreithiol)

Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.

Cafwyd ymddiheuriadau gan Dai Lloyd AC.

</AI1>

<AI2>

2       Offerynnau nad ydynt yn codi unrhyw faterion i gyflwyno adroddiad yn eu cylch o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

</AI2>

<AI3>

2.1   SL(5)463 - Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2019

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

</AI3>

<AI4>

3       Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad yn eu cylch i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

</AI4>

<AI5>

3.1   SL(5)458 - Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2019

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, ynghyd ag ymateb y Llywodraeth, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

</AI5>

<AI6>

3.2   SL(5)461 - Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) (Diwygio) 2019

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

</AI6>

<AI7>

3.3   SL(5)457 - Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Isafbris Uned) (Cymru) 2019

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

</AI7>

<AI8>

4       Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad yn eu cylch i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - wedi’u trafod yn flaenorol

</AI8>

<AI9>

4.1   SL(5)454 - Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Nododd y Pwyllgor ymateb y Llywodraeth.

</AI9>

<AI10>

5       Adroddiad o dan Reol Sefydlog 30B: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a'r Fframweithiau Cyffredin

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r adroddiad.

</AI10>

<AI11>

6       Datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C

</AI11>

<AI12>

6.1   WS-30C(5)155 - Rheoliadau'r Rhaglen Hawliau, Cydraddoldeb a Dinasyddiaeth (Dirymu) (Ymadael â'r UE) 2019

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r sylwebaeth.

</AI12>

<AI13>

6.2   WS-30C(5)153 - Rheoliadau Cynhyrchion Amaethyddol, Bwyd a Diod (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r sylwebaeth.

</AI13>

<AI14>

6.3   WS-30C(5)157 - Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Mesurau’r Farchnad, Hysbysiadau a Thaliadau Uniongyrchol) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r sylwebaeth.

</AI14>

<AI15>

6.4   WS-30C(5)158 - Rheoliadau Llygryddion Organig Parhaus (Diwygio) (Ymadael Â’r UE) 2019

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r sylwebaeth.

</AI15>

<AI16>

6.5   WS-30C(5)-159 - Rheoliadau’r Rhaglen Ewrop Greadigol a’r Rhaglen Ewrop i Ddinasyddion (Dirymu) (Ymadael â’r UE) 2019

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r sylwebaeth. Hefyd, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurhad pellach ynghylch yr amserlen mewn perthynas â thorri'r Cytundeb Rhynglywodraethol.

</AI16>

<AI17>

7       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

</AI17>

<AI18>

8       Y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru): Adroddiad drafft

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) cyn cytuno arno (yn amodol ar fân newidiadau).  Nododd yr Aelodau y byddai'r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol, sef 15 Tachwedd 2019.

</AI18>

<AI19>

9       Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru): Adroddiad drafft

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Fil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) cyn cytuno arno (yn amodol ar fân newidiadau).  Nododd yr Aelodau y byddai'r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol, sef 12 Tachwedd 2019.

</AI19>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>